Hanes Penfro

Gall tref Penfro olrhain ei dechreuadau nôl dros 900 mlynedd pan gyrhaeddodd Arnulf de Montgomery, ynghyd â llu o Normaniaid concwerus yn 1093, a chodi caer bren ar yr union fan lle saif y castell presennol.  Sefydlodd Briordy Fenedictiad Cil-maen yn 1098 hefyd.

                    

Fodd bynnag, islaw’r castell ceir tystiolaeth o anheddiad dynol tipyn cynharach yn dyddio nôl tua 12,000 o flynyddoedd yn Ogof Wogan ac yn Ogof Fferm y Priordy ychydig bellter oddi yno uwchben Afon Penfro.

                        

Yn ddiweddarach, credir bod anheddiad caerog ar safle’r castell yn ystod yr Oes Haearn a phan ddisgynnodd yr Oesoedd Tywyll dros Brydain, wedi dymchweliad rheolaeth Rhufeinig, roedd y seintiau cynnar wedi cyfanheddu’r tiroedd hyn gan sefydlu safleoedd Cristnogol cynnar yn Sant Daniel a Chil-maen.  Daeth trafferthion o’r newydd yn y nawfed ganrif gyda dyfodiad y Llychlynwyr.  Treuliodd y brenin Llychlynnaidd, Hubba, gaeaf 877 yn Aberdaugleddau tra roedd Cymru, o dan reolaeth y Tywysogion cynhennus, yn parhau yn analluog i uno i wrthwynebu’r ymosodiadau Normanaidd didostur.

 

Pan orseddwyd Harri I yn 1100 aeth Arnulf ati i gynllwynio yn ei erbyn a chollodd Benfro.  Rhoddwyd castell Penfro yn nwylo Gerald o Windsor yn ogystal â llaw’r dywysoges Nest chwedlonol; ei thad, Rhys ap Tewdwr arferai reoli’r tiroedd. Fe’i cymerwyd yn wystl ac yn gariad i Harri gan roi dau blentyn iddo.

                               

 

Rhoddodd Harri hefyd ei siartr gyntaf i Benfro gan ganiatáu breintiau arbennig er mwyn denu gwladychwr a fyddai’n darparu lluoedd digonol ar gyfer amddiffyn y tiroedd newydd oedd wedi’u hennill.  Sefydlwyd Penfro yn ganolfan weinyddol a milwrol ar gyfer de orllewin Cymru. Cafodd y Cymry eu herlid o Dde Sir Benfro a gwladychwyd eu tiroedd gan y Saeson a’r Ffleminiaid gan wneud yr ardal yn ddiwylliannol Seisnig gan roi iddi’r enw “Lloegr Fach Tu Hwnt i Gymru”.

 

Ymosodwyd ar y drefedigaeth Normanaidd newydd hon byth a hefyd gan y Cymry nad oeddent am ollwng gafael ar eu tiroedd ar chwarae bach. O ganlyniad penderfynodd y Brenin Stephen greu Iarllaeth Penfro yn 1138 i sicrhau rheolaeth o Benfro. Rhoddwyd pwerau palatin i’r Iarll cyntaf, Gilbert de Clare; “Doedd brenin Lloegr yn ddim mwy na brenin a chanddo ddim i’w wneud â gweinyddiaeth y sir gan adael yr Iarlliaid yn dywysogion rhydd ac absoliwt yn eu hawl eu hunain”. Fe’i holynwyd gan ei fab, Iarll Richard Strongbow, y gwr a arweiniodd y goncwest yn Iwerddon.  Lansiwyd y goresgyniad nodedig hwn o Benfro pan orchmynnwyd 400 o longau llynges Lloegr i ymgynnull yn yr Hafan gan Harri II yn ystod hydref 1171; hwn oedd yr haid fwyaf erioed o longau rhyfel i ymgynnull yn y fan.

 

Pan fu farw Strongbow yn 1176 daliodd Harri ei afael ar Gastell Penfro gan wneud ei ferch fechan, Isabel yn Ward Brenhinol. Priodwyd Isabel yn ddiweddarach â’r hynod William Marshall, yn ôl pob tebyg y mwyaf o Ieirll Penfro. Bu’r Iarllaeth yn nwylo’r teulu o 1189 tan 1242: yn ystod y cyfnod hwn y dechreuwyd codi castell Penfro ar ei ffurf bresennol o feini, â’i Neuadd Normanaidd a’i Orthwr Mawr neu Ddonjon silindrog, nodedig. Tyfodd Penfro yn dref ffyniannus yng nghysgod y castell.

Sefydlwyd hanfod hanesyddol y dref yr adeg honno sef prif stryd hir yn llawn siopau, busnesau a thai wedi’u codi mewn lleiniau bwrgais, wedi’u diogelu gan ddwr ar dair ochr a’u hamgylchynu gan furiau.  Roedd yr ail siartr a roddwyd gan Harri II yn cadarnhau statws breiniol Penfro: roedd disgwyl i longau masnach gofrestru yn y dollfa ym Mhenfro gan ei gwneud yn ganolbwynt masnach ar gyfer Dyfrffordd Aberdaugleddau gyfan

 

  Henry VII by Daniel Holloway

 

Yn ystod ‘Rhyfeloedd y Rhos’ roedd y dref a’r castell yn gwamalu rhwng cefnogi carfanau York a Lancaster.  Yn 1447 cafodd Siaspar Tudur (hanner brawd Harri IV) ei benodi’n Iarll Penfro a rhoddwyd y Margaret Beaufort ifanc yn ei ofal a rhoddodd hithau enedigaeth i fab yng Nghastell Penfro a fyddai ymhen amser yn cael ei orseddu yn Harri VII ac yn sefydlydd y frenhinlin Duduraidd. Fe’i olynwyd yn Iarll Penfro gan ei fab Harri VIII a rhoddodd y teitl Ardalyddes i’w wraig, Anne Boleyn yn 1532.  Yn ystod y teyrnasiad hwn y gwanychwyd pwysigrwydd Penfro: pan gyflwynwyd y Ddeddf Uno yn 1536 diddymwyd statws palatin Penfro a daeth yr Iarllaeth i ben  Pan gyflwynwyd yr Ail Ddeddf Uno yn 1543 rhoddwyd statws sirol i Hwlffordd ac i bob pwrpas fe’i gwnaed yn dref sirol. Doedd teitl Iarll Penfro yn ddim mwy na theitl mwyach.  Dinistriwyd Priordy Cil-maen hefyd o ganlyniad i Ddiwygiad Lloegr a Diddymiad y Mynachlogydd. Roedd hwn yn gyfnod o ddirywiad.

 

                     From the Pembroke Murals by George and Jeanne Lewis

 

Ond cododd Penfro i sylw cenedlaethol unwaith eto yn y ganrif ddilynol. Gwnaed John Poyer, seneddwr pybyr, yn faer yn 1641, ac yn 1642 cyhoeddodd Cymru gyfan ei chefnogaeth i’r brenin, heblaw Penfro a Dinbych-y-pysgod. Yn anffodus, penderfynodd Poyer, yn ddiweddarach, y dylai newid ochr yn ystod yr hyn a adwaenid fel yr Ail Ryfel Cartref yn 1648 a bu Penfro o dan warchae hirfaith a hynny o dan law Oliver Cromwell ei hun. Ildiodd Poyer a chafodd ei ddienyddio tra dymchwelwyd y rhan helaethaf o furiau castell Penfro.

                    Bucks Print - 18c

 

Roedd y rhain yn gyfnodau anodd ond ymddengys fod Penfro wedi adfywio yn y ddeunawfed ganrif pan gafodd ei disgrifio gan Daniel Defoe fel y dref gyfoethocaf a mwyaf ffyniannus yn Ne Cymru.  Penfro nawr oedd y prif borthladd ar hyd yr Hafan ac roedd masnach yn ffynnu.  Deillia nifer o’r tai ar hyd y Stryd Fawr o’r cyfnod hwn, wedi’u codi yn y ddeunawfed a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg mewn arddull Sioraidd syml.  Ailgodwyd llawer ohonyn nhw ar y safleoedd canoloesol ac maen nhw’n dal i arddangos elfennau cynharach megis is-grofftydd. Erys hanfod y dref ganoloesol bron yn ddigyfnewid.

 

Gwanychu oedd hanes Penfro yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg: symudodd llawer o fasnach forwrol i Hwlffordd ac Aberdaugleddau a phan agorwyd rheilffordd yn 1866 dirywio’n raddol oedd hanes diwydiant morwrol Penfro wedyn. Newidiwyd tirwedd Penfro hefyd gan ddyfodiad y rheilffordd: codwyd arglawdd anferth ym mhen dwyreiniol Llyn y Felin er mwyn ymestyn y rheilffordd i Ddoc Penfro. Y llong fasnach ddiwethaf i hwylio i Gei Penfro oedd y ‘Kathleen and May’ yn 1952.  

                  Kathleen and May at North Quay

 

Yn wahanol i Ddoc Penfro ni ddifrodwyd Penfro yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Wedi’r Rhyfel y newidiodd Penfro’n ddirfawr: tan hynny roedd wedi’i chyfyngu i bob pwrpas i du fewn y muriau ac roedd y lleiniau bwrgais Canoloesol bron heb newid. Wedi’r Rhyfel codwyd nifer sylweddol o dai a dinistriwyd rhannau helaeth o’r Grîn a Chil-maen er mwyn codi datblygiad newydd tai cyngor. 

 Yn 1972 cafodd tref Penfro ei dynodi’n Ardal Gadwraeth i gydnabod ei phwysigrwydd hanesyddol cenedlaethol a’i rhinweddau pensaernïol.