Croeso i Wefan Hanes Penfro.

Mae’r wefan hon yn ceisio archwilio hanes hir a mawreddog Penfro a disgrifio’r Prosiect Treftadaeth Stori Penfro a gychwynnwyd gan y Gymdeithas Cymuned 21C. 

 

Pembroke Castle and Part of Town by Charles Norris, 1817

Castell Penfro gan Charles Norris 1817

Tref furiog ganoloesol gyda chastell godidog sy’n dyddio’n ôl i’r 11eg ganrif yw Penfro, a rhoddodd ei henw i’r Sir Benfro bresennol,  Mae nifer o’r mawrion a’r enwogion yn ffurfio rhan o’n stori: Castell Penfro oedd man geni Harri VII, sylfaenydd llinach y Tuduriaid.  Yn ychwanegol, mae ei stori yn ymestyn yn ôl i niwl cynhanes pan wnaeth dyn ei ffordd i fyny afon Penfro i sefydlu cartref yn Ogof Twll y Gath a Cheudwll Wogan 10,000 o flynyddoedd yn ôl. Un tro yn borthladd ffyniannus a chanolfan amaethyddol, bellach - mae pob diwydiant wedi mynd - cyrchfan twristiaeth, mae cymaint i’w ddarganfod am ein tref hudol ni. 

 

 

Ynglyn â Stori Penfro

 

Mae Stori Penfro yn cynnwys ymchwilio i hanes Penfro, o’r dyddiau cynnar i’r dydd presennol

 

Sut ydym yn gwneud hyn?

 

Cofnodi

Mae cofnodi atgofion pobl leol ym Mhenfro a Chil-maen o bwysigrwydd hanfodol.  Pan fydd y rhan fwyaf o bobl yn meddwl am hanes, maent yn meddwl am y cyrch eang o ddigwyddiadau cenedlaethol, brenhinoedd a rhyfeloedd.  Mewn gwirionedd mae hanes o’n cwmpas i gyd, yn ein teuluoedd a chymunedau, yn atgofion a phrofiadau pobl hyn.  Mae’r oes Fictoria hwyr yn dal yng nghof y preswylwyr hyn hynny sy’n cofio’u rhieni a’u           neiniau a theidiau a ffordd o fyw, sydd wedi hen ddiflannu. Ond nid oes rhaid iddi ddiflannu’n gyfan gwbl os gallwn ni ddal yr atgofion hynny a’u cadw nhw ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

 

Sganio hen luniau

Mae rhan bwysig o’n gwaith yn ymwneud â chasglu a sganio hen ffotograffau.  Erbyn hyn, mae gennym gasgliad da o hen gardiau post sy’n amlygu wyneb newidiol Penfro o’r oes Fictoria hwyr i’r oes sydd ohoni heddiw.

 

I ryw raddau mae'r rhain yn amlygu newid dramatig: mae’r ffotograff hwn o Gei’r De yn dangos Penfro tipyn gwahanol. Anodd credu erbyn hyn; roedd Penfro unwaith yn borthladd ac roedd llongau hwylio yn teithio ar hyd Afon Penfro gyda’u llwythau.   Roedd yna hefyd felin 5 llawr ar Mill Bridge a losgodd i lawr yn y 1950au. 

 

South Quay, Pembroke

 

 

 

Ond, yn ei hanfod,  nid yw Main Street wedi newid yn sylweddol.  Mae’r busnesau yn wahanol, mae’r dull o deithio o gwmpas a ffasiynau yn wahanol ond mae’r adeiladau yn hawdd i’w hadnabod.

 

 

 

 

Yr hyn sy’n ddiddorol hefyd yw’r ffotograffau personol y caniatawyd i ni eu  copïo o gasgliadau preifat sy’n taflu goleuni ar fywyd gwaith a chymdeithasol pobl Penfro.

 

 

 

Casglu Gwybodaeth

Rydym yn casglu unrhyw wybodaeth am Benfro - er enghraifft, llyfrau, mapiau, papurau newydd ac erthyglau cylchgronau.

 

 

Ymestyn Allan

Rydym hefyd wedi trefnu arddangosfeydd, sgyrsiau a gweithdai - rydym eisiau ennyn diddordeb y gymuned yn ein hymchwil a chodi proffil ein hanes. 

 

           

 

Cliciwch yma i weld ein dyddiadur o ddigwyddiadau.